Comisiynydd: Nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn 'sioc'

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Meri Huws ei phenodi'n Gomisiynydd y Gymraeg yn 2012

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud ei bod wedi synnu nad yw nifer y plant sydd yn derbyn addysg Gymraeg wedi cynyddu.

Galwodd Meri Huws ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar awdurdodau lleol i ateb y galw am addysg gyfrwng Cymraeg.

Roedd yn ymateb i adroddiad pum mlynedd cyntaf y Comisiynydd gafodd ei gyhoeddi ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.

Yn ôl yr adroddiad roedd 15.7% o blant yn derbyn addysg Gymraeg yn 2014/15 - gostyngiad o'r 15.9% yn 2010/11.

'Mesur y galw'

Mewn cyfweliad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru dywedodd Ms Huws bod angen i awdurdodau lleol fesur y galw am addysg Gymraeg ac i wneud hynny'n effeithiol.

"Mae yna gwestiwn fan hyn - ydi'r awdurdodau lleol yn mesur y galw am addysg Gymraeg?" gofynnodd.

"Ydyn nhw'n gwneud hynny yn effeithiol, ac wedi mesur y galw? Ydyn nhw'n darparu yn ôl yr angen?

"Rydyn ni'n clywed ar draws Cymru [bod] galw am addysg cyfrwng Cymraeg sydd ddim yn cael ei ateb, ac mae yna gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i wireddu'r hyn sydd angen.

"Dw i yn credu bod 'na gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdod lleol yn gwneud hynny."

Meri Huws
Disgrifiad o’r llun,

Meri Huws yn cyhoeddi'r adroddiad ar faes yr Eisteddfod ddydd Mercher

Mae'r adroddiad yn dangos nad oes cynnydd gwirioneddol wedi bod yn nifer y plant sy'n cael addysg Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, ac yn ôl Meri Huws mae hynny'n dangos bod yn rhaid canolbwyntio ar y maes addysg.

"Ges i sioc pan weles i'r ffigyrau," meddai.

"Os ydych chi yn edrych ar y data, un ffigwr sy'n aros yn fy mhen i.

"Os edrychwch chi ar y bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru heddiw, mae pedwar allan o bump yn dysgu Cymraeg tu allan i'r cartref.

"Maen nhw'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Felly mae'n gwneud synnwyr i ni i edrych ar sefyllfa'r iaith mewn byd addysg."