Neidio i'r cynnwys

Sidydd

Oddi ar Wicipedia
Sidydd
Enghraifft o:set Edit this on Wikidata
Mathcyfundrefn Ptolemi Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYr Hwrdd, Y Tarw, Y Gefeilliaid, Y Cranc, Y Llew, Y Forwyn, Y Fantol, Y Sgorpion, Y Saethydd, Yr Afr, Y Dyfrwr, Y Pysgod, Ophiuchus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae cylchdro'r Ddaear o amgylch yr Haul yn achosi mudiant ymddangosiadol y diwethaf ar hyd yr ecliptig (coch). Mae'r Ddaear ar ogwydd echelinol 23.4° o'i gymharu â'r plân hwn; dangosir ei chyhydedd, wedi'i ymestyn i'r sêr, mewn glas golau.

Ardal siâp gwregys o'r awyr sy'n amgylchynu'r Ddaear yw'r Sidydd (Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos; Saesneg: Zodiac). Yn rhedeg ar hyd canol y gwregys mae'r ecliptig, llwybr ymddangosiadol yr Haul ar draws y sffêr wybrennol yn ystod y flwyddyn. O fewn y gwregys hwn, sy'n ymestyn tua 8° i'r gogledd a'r de o'r ecliptig, y mae'r Lleuad a'r planedau i'w gweld. Rhennir y Sidydd ar hyd yr ecliptig yn 12 rhan gyfartal, a elwir yn "arwyddion", pob un yn llenwi 30° o hydred wybrennol. Mae'r arwyddion hyn yn rhannu enwau â chytserau seryddol modern – Aries, Taurus, Gemini, Cancer, Leo, Virgo, Libra, Scorpio, Sagittarius, Capricorn, Aquarius, a Pisces. Fodd bynnag, dim ond yn fras y mae'r arwyddion a'r cytserau yn cyfateb i'w gilydd. Mae'r cytserau yn afreolaidd eu siâp a'u maint, felly nid yw'r Haul yn treulio mis ym mhob un. Mae'r Haul hyd yn oed yn mynd trwy'r cytser Ophiuchus nad yw'n arwydd y Sidydd. Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol bellach.

Diagram o Scenographia Systematis Mundani Ptolemaici gan Andreas Cellarius (1660), yn dangos gwregys y Sidydd o amgylch y Ddaear

Arwyddion y Sidydd

[golygu | golygu cod]

Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis o'r flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl hwn yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan fydd yr haul yn mynd drwyddynt.

Cytser Arwydd Dyddiadau presenoldeb yr haul…
…yn yr arwydd …yn y cytser (yn 2000)
Yr Hwrdd 21 Mawrth20 Ebrill 20 Ebrill13 Mai
Y Tarw 21 Ebrill21 Mai 14 Mai19 Mehefin
Y Gefeilliaid 22 Mai21 Mehefin 20 Mehefin20 Gorffennaf
Y Cranc 22 Mehefin22 Gorffennaf 21 Gorffennaf9 Awst
Y Llew 23 Gorffennaf22 Awst 10 Awst15 Medi
Y Forwyn 23 Awst22 Medi 16 Medi30 Hydref
Y Fantol 23 Medi22 Hydref 31 Hydref22 Tachwedd
Y Sgorpion 23 Hydref22 Tachwedd 23 Tachwedd29 Tachwedd
Ophiuchus (nid yw’n un o arwyddion y Sidydd) 30 Tachwedd17 Rhagfyr
Y Saethydd 23 Tachwedd21 Rhagfyr 18 Rhagfyr18 Ionawr
Yr Afr 22 Rhagfyr20 Ionawr 19 Ionawr15 Chwefror
Y Dyfrwr 21 Ionawr18 Chwefror 16 Chwefror11 Mawrth
Y Pysgod 19 Chwefror20 Mawrth 12 Mawrth18 Ebrill

Llawysgrif Gutun Owain

[golygu | golygu cod]

Mae rhan gyntaf Llawysgrif Gutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y 15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill ac iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]